Aelod staff GroupEd yn dal gliniadur, wedi’i fframio gan farc GroupEd
Everything ICT Cyber Essentials Plus Cyflenwr Asiantaeth Fasnachol y Llywodraeth

Ar gyfer ysgolion sy’n rhedeg ar lefel wahanol.

Cysylltu a synhwyro popeth. Mae’r ysgol gyfan yn meddwl yn gliriach, symud yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.

Mewngofnodi bum gwaith? Systemau lu datgysylltiedig? Rydyn ni wedi adeiladu un platfform yn lle hynny.

MIS, presenoldeb, ymddygiad, cyfathrebu â rhieni a diogelwch safle, i gyd mewn un lle. Mewngofnodi unwaith, un bil, ac oriau yn ôl i’ch staff bob wythnos.

Wedi’i adeiladu ar gyfer pob cornel o fywyd ysgol.

Yr ystafell ddosbarth, y swyddfa, y dderbynfa a ffôn y rhiant - yr un data, gydag un mewngofnodiad.

  • Un mewngofnodiad, wedi’i deilwra ar gyfer pob rôl.
  • Cysylltu o’r diwrnod cyntaf.
  • Pob modiwl wedi’i gynnwys.
  • Un tanysgrifiad, nid sawl un.
  • Mae’n gweithio hyd yn oed pan nad yw’r band eang yn gweithio.
  • Mae’n llwytho proffil disgybl mewn llai nag eiliad.
  • Gall staff swyddfa gynefino mewn bore.
Disgyblion yn cerdded ar hyd llwybr, gydag eraill yn siarad tu allan i’r fynedfa Dosbarth cynradd wrth eu desgiau yn ystod gwers Desg derbynfa ysgol gyda’r ciosg mewngofnodi ar y wal wrth ei hymyl Rhiant yn gwirio ei ffôn tra’n coginio adref
Cwmbran High School Cantonian High School St Illtyd’s Catholic High School Glyn-gaer Primary School St Peter’s RC Primary School Baden Powell Primary School Coed-y-brain Primary School Coryton Primary School Deri Primary School Fleur-de-lis Primary School Knighton Primary School Nantgwern Primary School St Gwladys Bargoed School St Helen’s Primary School Ysgol Treganna

Un platfform. Pedwar cynnyrch sydd eisoes yn siarad.

Dechreuwch gydag un cynnyrch neu cymerwch y cyfan – mae popeth yn cysylltu o’r diwrnod cyntaf.

Athro yn gweithio ar One wrth ddesg yn ei hystafell ddosbarth

Yr MIS yng nghanol y cyfan. Yr ysgol gyfan ar un sgrin.

  • Cofrestrau, cofnodion, cyfrifiad ac adrodd mewn un lle
  • O ddal data i ddeallusrwydd penderfyniadau
  • Mewngofnodi un waith ar gyfer y dderbynfa, cofrestrau, cyfathrebu a chynllunio
Darllenwch mwy am One
Derbynnydd ysgol yn cofrestru ymwelydd ar OnSite

Y ddesg flaen, wedi’i sortio – mewngofnodi, ymgilio a chyfyngiadau symud mewn un pris.

  • Ymwelwyr, disgyblion hwyr a rhai sy’n gadael yn gynnar mewn un log
  • Ymgilio a chyfyngiadau symud fel safon – yn barod ar gyfer Cyfraith Martyn
  • Mae’n ysgrifennu’n syth yn ôl i’ch MIS, dim cofnod dwbl
Darllenwch fwy am OnSite
Athro yn defnyddio Classroom ar ei liniadur rhwng gwersi

Pob gwers, o ddyfais yr athro, mewn eiliadau.

  • Ymddygiad, gwobrau a chyfathrebu â rhieni mewn un tap
  • Galwad cofrestr 52 eiliad pan fydd y larwm yn canu
  • Os gallwch ddefnyddio ffôn, gallwch ei ddefnyddio. Anaml y mae angen hyfforddiant
Darllen mwy am Classroom
Rhiant yn gwirio ap Parent & Carer GroupEd ar ei ffôn

Pob diweddariad gan yr ysgol, mewn un ap am ddim ar gyfer rhieni a gofalwyr.

  • Negeseuon, taliadau, gwaith cartref a phresenoldeb mewn un lle
  • Adrodd absenoldeb neu archebu noson rhieni eich hun
  • Am ddim i bob rhiant a gofalwr, ym mhob ysgol GroupEd
Darllenwch fwy am yr ap Parent
Rhiant a phlentyn yn eistedd wrth fwrdd y gegin gyda gwaith cartref

18,790

o rieni eisoes wedi’u cysylltu ag ysgol eu plentyn

Mae rhieni’n ei ddefnyddio bob dydd hefyd.

Rhieni a gofalwyr yw ein grŵp mwyaf o ddefnyddwyr, felly mae’r ap wedi’i adeiladu o’u cwmpas nhw: modern, hawdd, clyfrach.

  • Negeseuon, taliadau, gwaith cartref a phresenoldeb mewn un lle
  • Adrodd absenoldeb neu archebu noson rhieni eich hun
  • Am ddim i bob rhiant a gofalwr, ym mhob ysgol GroupEd
Archwiliwch yr ap Parent & Carer

Y rhifau mae ysgolion wir yn eu teimlo.

Data annibynnol a chanlyniadau cwsmeriaid wedi’u harchwilio – nid mathemateg marchnata.

4awr

wedi eu harbed fesul athro yr wythnos ar waith gweinyddu arferol (data amser-a-symudiad annibynnol)

70%+

o ostyngiad cyfartalog mewn gwariant meddalwedd yn y flwyddyn gyntaf (data cwsmeriaid wedi’i archwilio)

1.2%

o ffi trafodiad talu ar daliadau rhieni, wedi’i bweru gan Barclays

<1 eiliad

i lwytho trosolwg disgybl llawn. Mae’r systemau mawr yn cymryd 3-5 eiliad ar gyfartaledd.

Geirdaon

Beth mae ysgolion a rhieni yn ei ddweud

  • "Fe wnaethon ni edrych ar sawl system a sylwi ar gostau cudd ar gyfer y nodweddion yr oedden ni wir eu hangen. Mae OnSite yn gwneud popeth, yn cysylltu'n syth â'n MIS, ac mae'r pris yn arbennig o syml. Mae'n system drawiadol gyda chefnogaeth wych."
    Tarian Barry Island Primary School Matt Gilbert Pennaeth · Barry Island Primary School
  • "Gyda dros 1,200 o ddisgyblion a staff ar y safle bob dydd, roedd angen system y gallwn ymddiried ynddo. Mae integreiddio’r MIS yn unig wedi arbed oriau i’n tîm gweinyddol bob wythnos."
    Tarian Cwmbran High School Rheolwr Busnes Cwmbran High School · Cwmbran, Cymru
  • "Mae GroupEd yn galluogi ein cymuned ysgol gyfan i gael mynediad at bopeth sydd ei angen arnynt ar flaenau eu bysedd."
    Tarian All Saints C.I.W Primary School Mr A. R. Williams Pennaeth · All Saints C.I.W Barri
  • "Mae gen i un plentyn yn y cynradd ac un yn yr uwchradd. Ers blynyddoedd rydw i wedi gorfod cysylltu â 5 ap gwahanol i gyfathrebu â'u hysgolion. Mae’n tynnu’r pwysau o orfod poeni fy mod yn colli rhywbeth trwy’r amser. Diolch GroupEd!"
    Catrin HornungRhiant

Prisio syml. Wedi rhewi am dair blynedd.

Ffi sylfaenol ynghyd â chyfradd fesul disgybl, dyna ni, ac mae'r holl brisiau +TAW. Mae Bargen Lansio 2026 yn rhad ac am ddim nes bod eich contractau presennol yn dod i ben, yna yn arbed o leiaf 50% i chi ar yr hyn rydych chi'n ei dalu heddiw, wedi'i gloi am dair blynedd.

Ymddygiad, gwobrau a chyfathrebu â rhieni, yn cydamseru â'ch MIS cyfredol

Pris safonol

£290 sylfaenol + TAW

Ysgolion cynradd

+ £4.50 / disgybl / blwyddyn +TAW

£1,490 sylfaenol + TAW

Ysgolion uwchradd

+ £5 / disgybl / blwyddyn +TAW

Archebwch demo Darllen mwy am Classroom

Yr MIS Cwmwl Llawn

Pris safonol

£290 sylfaenol + TAW

Ysgolion cynradd

+ £7 / disgybl / blwyddyn +TAW

£1,490 sylfaenol + TAW

Ysgolion uwchradd

+ £10 / disgybl / blwyddyn +TAW

Archebwch demo Darllenwch mwy am One

Am ddim ar gyfer ALlau & MATs

Beth sydd wedi’i gynnwys ym mhob cynnyrch

Pob nodwedd, ochr yn ochr. Mae OnSite yn annibynnol: mae’n rhedeg gydag unrhyw MIS, neu ar ei ben ei hun.

NodweddGroupEd OnSiteGroupEd ClassroomGroupEd One
Cofrestr ymgilioWedi’i gynnwysHeb ei gynnwysWedi’i gynnwys
Cyfyngiadau symudWedi’i gynnwysHeb ei gynnwysWedi’i gynnwys
Cofrestru & rheoli ymwelwyrWedi’i gynnwysHeb ei gynnwysWedi’i gynnwys
Cofnodi presenoldebHeb ei gynnwysWedi’i gynnwysWedi’i gynnwys
Gwaith dosbarthHeb ei gynnwysWedi’i gynnwysWedi’i gynnwys
Cyfathrebu diderfynHeb ei gynnwysWedi’i gynnwysWedi’i gynnwys
HoliaduronHeb ei gynnwysWedi’i gynnwysWedi’i gynnwys
Taliadau & phrydauHeb ei gynnwysWedi’i gynnwysWedi’i gynnwys
Trefnydd gweithgaredd, clwb & thripiauHeb ei gynnwysWedi’i gynnwysWedi’i gynnwys
Proffiliau myfyrwyr & staffHeb ei gynnwysWedi’i gynnwysWedi’i gynnwys
Siop ysgolHeb ei gynnwysWedi’i gynnwysWedi’i gynnwys
Ap ParentHeb ei gynnwysWedi’i gynnwysWedi’i gynnwys
Ymddygiad & chyflawniadHeb ei gynnwysWedi’i gynnwysWedi’i gynnwys
Noson rhieniHeb ei gynnwysWedi’i gynnwysWedi’i gynnwys
Adroddiadau disgyblionHeb ei gynnwysWedi’i gynnwysWedi’i gynnwys
Mapio darpariaeth AAA, ADY & ASNHeb ei gynnwysWedi’i gynnwysWedi’i gynnwys
Adrodd manylachHeb ei gynnwysHeb ei gynnwysWedi’i gynnwys
Amserlennu & chynlluniwr seddiHeb ei gynnwysHeb ei gynnwysWedi’i gynnwys
Cyfrifiad & adrodd statudolHeb ei gynnwysHeb ei gynnwysWedi’i gynnwys
DerbyniadauHeb ei gynnwysHeb ei gynnwysWedi’i gynnwys
ArholiadauHeb ei gynnwysHeb ei gynnwysWedi’i gynnwys
Tracio cynnyddHeb ei gynnwysHeb ei gynnwysWedi’i gynnwys
Adroddiadau y gellir eu haddasu & dashfyrddauHeb ei gynnwysHeb ei gynnwysWedi’i gynnwys
DiogeluHeb ei gynnwysHeb ei gynnwysWedi’i gynnwys
Rheoli cyflenwi staffHeb ei gynnwysHeb ei gynnwysWedi’i gynnwys

Mae OnSite yn rhedeg yn annibynnol - nid oes angen unrhyw gynnyrch GroupEd arall, ac mae'n gweithio gydag unrhyw MIS. Darllenwch fwy am OnSite

Pan fyddwn yn ychwanegu nodweddion, rydych chi'n eu cael heb unrhyw gost ychwanegol. Nid oes byth unrhyw ychwanegiadau.

Aelod o staff ysgol yn gweithio’n hyderus ar GroupEd
Diogelwch & ymddiriedaeth

Mae eich data mewn dwylo diogel.

Wedi’i ardystio’n annibynnol, ei gynnal yn y DU ac yn y cwmwl, a’i gymeradwyo ar y fframweithiau y mae ysgolion yn prynu drwyddynt. Chi sydd yn berchen ar eich data – os byddwch chi’n gadael ar unrhyw adeg, byddwn yn eich helpu i’w symud.

Wedi ardystio Cyber Essentials Plus Cyflenwr Asiantaeth Fasnachol y Llywodraeth Darparwr Everything ICT cymeradwy

Newid yw’r peth y mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn ei ofni.

Ni sy’n gwneud y gwaith caled.

  1. Galwad darganfod – 20 munud

    Rydym yn mapio'ch pentwr cyfredol ac yn cadarnhau beth fydd GroupEd yn ei ddisodli ac na fydd yn ei ddisodli. Atebion gonest y naill ffordd neu'r llall. Dim sleidiau pitsh.

  2. Mudo – yn ein dwylo ni

    Rydyn ni'n tynnu eich disgyblion, staff, rhieni, hanes presenoldeb ac asesiadau allan o'ch system bresennol. Rydych chi'n cymeradwyo’r cyfan cyn mynd yn fyw.

  3. Cynefino – hanner diwrnod

    Dwy sesiwn fyw fer ar gyfer y swyddfa a’r UDRh, wedi'u recordio ar gyfer staff sydd yn methu bod yno. Dim cyrsiau preswyl oddi ar y safle. Dim boot-camp tair wythnos. Wedi'i gynnwys yn y pris.

  4. Mynd yn fyw – ar ddyddiad o’ch dewis chi

    Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn symud yn ystod hanner tymor neu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Mae eich rheolwr cyfrif ar gael o 8yb ar y diwrnod.

Beth bynnag rydych yn ei dalu, byddwn yn ei haneru.

Defnyddiwch GroupEd am ddim nes bod eich contractau presennol yn dod i ben. Yna arbedwch o leiaf 50% ar yr hyn rydych chi’n ei dalu heddiw – wedi’i gloi am dair blynedd.

GroupEd yn cael ei ddangos ar fwrdd gwaith, tabled a ffôn